Monday 4 May 2009

Dod yn ol atoch ar ol sbel.

Sawa di cra'! (Helo or tir 'Thai' (Thailand) )
Sut hwyl? Dwi'n ysgrifennu atoch o Benygroes, am ei bod hi'n wyl y banc, a dwi ar wyliau adref am y dydd. Dwi'n teimlo yn reit wael, serch hynny. Mae gennyf rhyw fath o ffliw...ond does dim nodweddion amlwg o'r ffliw cig moch (swine), peidiwch a phoeni. Beth bynnag, mae'r wythnos dwetha' wedi bod yn un reit ddistaw, a braf.
UCHAFBWYNTIAU'R WYTHNOS:
Cawsom ddarlith wych, eto, gyda Dafydd Ollerton ar ddydd mercher, a mae o'n gwneud gwaith ardderchog gyda ni, yn ein cael ni i feddwl am bethau. Pwnc y dydd oedd yr ysbryd glan, a sut mae'r ysbryd yn berson, a "A oes lle amlwg gan yr ysbryd glan yn ein bywydau ni?" Beth darodd fi fwya' oedd y ffaith fod gan yr ysbryd glan deimladau, a rydym ni'n brifo teimladau'r ysbryd wrth i ni bechu, ac ar yr un pryd wedyn, yn ei wthio i ffwrdd.
Daeth criw o rhyw Eglwys anferthol draw o America i'n gweld ni brynhawn mercher, a roedden nhw'n bobl neis iawn, eisiau ein cynorthwyo ni, fel Cymry Cymreig, i adnewyddu sefyllfa'r Eglwysi yng Nghymru. Ges i fendith o'r cwbl, beth bynnag. Mae gan eu heglwys nhw rhyw 10,000 o aelodau, 35 gweinidog, a tua 200 o staff llawn amser, a 30 rhan amser hefyd. diddorol. (!)
Beth oedd yn rhyfedd am y cwbl oedd mod i wedi clywed am bobl fel Mark Driscoll gyda 8,000 yn y capel etc, ond roedd cael y bobl yma yn gofyn cwestiynnau i fi yn reit ddychrynllyd!!
Nos fercher oedd noson Souled Out. Derek oedd yn siarad. Yn son am garu. Caru ein gilydd, caru ein Eglwys, caru pawb a phopeth. Dilyn esiampl Iesu! Testun da o Thesaloniaid. Noson i galonogi'r cristion!!! :)

Roeddwn wrthi'n gwneud clwb plant ar ddydd iau, a roedd hynny'n gret. Tro yma, roedd Elinor yn gwneud y stori, a roedd yn gret. Y plant yn amlwg wedi mwynhau, ac wedi canolbwyntio yn dda. Roedden ni'n son am Paul a Onesimus, a hefyd yr Arfogaeth sy'n cael ei roi i ni gan Dduw i ymladd yn erbyn y diafol. Good stuff! Gemau da hefyd, ac yn ychwanegol, cafodd y plant gyfle i weddio gyda'i gilydd, ac yna ar y diwedd, byddai oedolyn fel arfer yn gweddio, on roeddwn yn teimlo Duw yn dweud wrthai i ofyn i un or plant, felly mi gynnigais, a mi wnaeth Lora (legend) weddio. Roedd o'n hwb mawr i fi i weld ei bod hi eisiau gweddio, a ddim ond yn gweddio o reidrwydd.
Wel, dyna'r darnau da yr wythnos yma, dwi'n teimlo. Roedd y Sul ym Mhendref, Ruthin, yn iawn, ond mod i'n teimlo'n sal, a'r bobl yn araf i ymateb, ond gobeithiwch (a gweddiwch) fod yr ysbryd glan wedi/yn gweithio yn eu calonnau!!

wel, ffwrdd a fi rwan, dwi'n ymwybodol fod John Higgins ar ei ffordd i ennill y gwpan byd snwcer, ond eto, byddai gweld Shaun Murphy yn dod yn ol yn reit gyffrous!! beth bynnag, teledu a phaned=perffaith!!
Ciao
Treharne

Tuesday 21 April 2009

Ail-afael ar y gwaith ym Mhrifddinas y byd, llansannan.

noswaith dda, bobl y byd.
Thema'r blog heno yw "sbring clin, neu "spring clean". Dim ond oherwydd mod i wedi glanhau'r ty i gyd heno, ac hefyd wedi golchi dillad, a'r fridge, ac wedi gwario o gwmpas £50 i stocio'r ty a bwyd! (ffoniwch os dachi am ddod draw am damaid i'w fwyta.)
wrth wrando ar meirion morris (fy mos, o rhyw fath, a gweinidog llansannan llu) yn siarad heno ar Rhufeiniaid, mi wnath o daro fi sut mae Paul yn siarad mewn dull sydd wastad hefo mwy o gig ar yr asgwrn, dim ond i ni edrych rhwng y llinellau. Mae'n rhyfeddol fod Paul mor ostyngedig tra'n amddiffyn ei hunan, wrth i'r Rhufeiniaid gwestiynnu'r ffaith nad yw wedi ymweld a nhw eto! Mae o'n gwneud i fi feddwl am adegau lle dwi wedi trio amddiffyn fy ffydd, a mae o wedi bod yn anodd, achos dwi ddim isho ymffrosio yn fy hunan, a codi fy hunan i fyny, ond eto, dwi ddim isho i enw Iesu gael ei drin fel mwd! wel, does na ddim llawer o esiamplau gwell na esiampl Paul. Wrth gwrs, doedd y Rhufeiniaid ddim yn cwestiynnu ei ffydd, dim ond ei fwriadau(a mae hynny'n digwydd yn aml i ni hefyd, tybiwn i), ond dwi di cael lot allan o'r sessiwn heno! woop woop.

ta waeth, yfory mae gen i ddarlithoedd. gret. Dwi angen astudio ar gyfer fy arholiad groeg ar fis mai y 6ed( gweddiwch yn eich miliynau plis!), a dwi angen gwneud 3 traethawd. hmmmmm

Ziech kele (nos da, fel y dywed y Rwsiaid)

Tree

Saturday 18 April 2009

Llanw, a'r adladd. (aftermath)

konnichiha(helo siapanieg),
Safle: Bryn Mor, Penygroes(stafell wely), Teimlo:Wedi blino, ond cyffrous ar yr un pryd.
Sut mae'r hwyl? Dwi'n ysgrifennu am fy mod eisiau rhannu fy nheimladau gyda chi. nid eu bod yn bwysig, ond "a problem shared, is a problem halved", chwadal y sais.

y broblem yw fy mod wedi blino'n lan ar ol llanw, a mae'n rhaid i mi bregethu yfory am 10. am y deufis a hanner dwetha', dwi di bod yn rhydaman, ac yng nghaerfyrddin yn cysgodi gweinidogion y ddwy eglwys(Jonathan Thomas, a Geraint Morse), ac yn gweithio i'w eglwysi. Mae wedi bod yn gret, ond ar yr un pryd, does gen i ddim llawer o egni ar ol erbyn hyn. mae byw i ffwrdd o'ch cartref hyd yn oed yn eich blino ychydig, ond yn ogystal a hynny, mae Llanw newydd orffen ar ddydd gwener, felly roedd hwnnw hefyd yn sugno fy holl egni allan ohonnof!

Rhydaman: Cefais brofiadau gret yn Rhydaman, yn pregethu, yn gwneud cenhadu mewn ysgolion, yn bugeilio a.y.y.b, ond eto, roedd yr hyn a wnes i wedi ei sefydlu'n barod yn Rhydaman, ac er ei fod wedi bod yn ardderchog i fi gael y profiadau, fe ddes allan or sefyllfa yn teimlo nad oeddwn wir wedi rhoi llawer yn ol iddynt. Er hyn, roedd y profiad yn wych, ac fe fwynheais fod yn rhan o'r gwaith yn fawr iawn! Un o'r pethau gorau am Rhydaman oedd cael bod yn rhan o Eglwys weddol ifanc, gyda oedolion tebyg i mi, a roedd hynny'n hynod o braf!

Caerfyrddin: Ar ol bod yn Rhydaman, doeddwn i ddim yn siwr os oedd Caerfyrddin am fod yn gymaint o hwyl(os dwi'n onest!). Roedd y dechrau yn un reit anodd, am fy mod wedi cyrraedd ar fore Sadwrn i fynd i un o'r "Baptist Roadshow's" (!) -nid y ffordd dwi fel arfer yn dewis fy more Sadwrn, ac yna yn cael cyfweliadau ar y Sul, a mynd i 4 gwasanaeth. Yn yr wythnos cyntaf, cawsom Angladd, a roedd yn rhaid i fi a Geraint fynd i'r ty ar y diwrnod y bu'r ddynes farw, ond doedd o ddim yn achlysur hynod o drist, am fod y ddynes ma'n hen gristion annwyl iawn, ac yn amser iddi fynd, fel yr oedd pawb yn ei ddweud. Roedd yn amlwg fod y cyfnod yng Nghaerfyrddin yn rhoi syniadau mwy real o waith yr Eglwys, fel yr oeddwn i yn ei gweld hi. Nid fod Jonathan wedi cuddio unrhyw agwedd o waith yr eglwys oddi wrtha 'i, ond roedd pethau arbennig yn digwydd bod ymlaen yn Rhydaman (cenhadu mewn ysgolion, penwythnos ieuenctid i ffwrdd, hen wlad fy nhad) oedd yn cymryd yr amser i fyny, braidd, ac yn ei gwneud hi'n anodd i roi mwy o amser i'r eglwys, yn amlwg. Er hyn, roeddwn yn falch iawn mod i'n cael y profiadau yma!
Ar ol yr wythnos gyntaf, roeddwn wedi setlo, ac yn falch o fod yno! Roeddwn yn arwain addoliad ym mhob gwasanaeth, ac yn pregethu bob hyn a hyn. Roedd yn ardderchog cael bod yn rhan o'r gwaith, ac i gael Geraint yn gwrando arnaf yn pregethu.
Uchelbwyntiau'r cyfnod: Pregethu ac arwain addoliad
Amser tawel dyddiol gyda Geraint !!
Cyfarfodydd gweddi, a dosbarthiadau beiblaidd
Ymwneud a aelodau'r eglwys!
Clybiau plant a ieuenctid
Dosbarth Bedydd!!!!

Y dosbarth bedydd, dwi'n meddwl, oedd yr uchafbwynt mwyaf i mi! Roedd gweld 7 neu 8 o bobl ifanc o gwmpas y bwrdd yn darllen y beibl, gweddio, ac eisiau clywed a dysgu mwy yn wych!!
Roedd yn ffantastig i adeiladu perthynas gyda'r Eglwys yma! Roedden nhw eisiau datblygu fel Eglwys, ac eisiau symud ymlaen ym mhob agwedd o'u gweinidogaeth! wooo!
Dwi'n gobeithio mynd yn ol yno yn y dyfodol, os mai dyna mae Duw eisiau.

Erbyn i mi orffen yng Nghaerfyrddin, roeddwn i wedi blino, ond roedd Llanw yn disgwyl amdanaf o gwmpas y gornel! Felly, fe es i Langrannog, yn cyffroi rhyw ychydig, ond fwy na dim, yn gobeithio am "chillax"

Wel, chillax oedd y peth olaf ar fy meddwl ar ol cyrraedd Gwersyll yr Urdd yn Llangrannog! Fe gyrhaeddais mewn amser i gael cinio, ac yn syth ar ol hynny, helpu settio'r P.A system i fyny(er fod Rhys ac Andy wedi gwneud y rhan fwyaf yn barod, chwarae teg!) a cael sound check gyda'r band. Erbyn hyn, roeddwn yn teimlo'n well am y cwbl! Beth bynnag, ar ol hyn, fe es i ati i ddweud helo wrth bawb! roedd o'n gret i gael gweld pobl eto! a cwrdd a rhai newydd hefyd! Fe aeth amser heibio, a cyn troi rownd, roedd hi'n amser bwyd! roedd y sbag bol braidd yn siomedig fyd.
O ddydd mawrth-gwener, roeddwn i'n helpu gyda'r ieuenctid, ac yn chwarae'r dryms yn y band, ond doedd hyn ddim yn rhy ddrwg, gan fy mod wedi cael ychydig o amser yn y canol i siarad a hen ffrindiau, a dal i fyny gyda nhw! (yn anffodus, ges i ddim cyfle i siarad a phawb). Beth bynnag, y pethau gorau yn Llanw oedd y teimlad o deulu a oedd yn perthyn i'r gynhadledd i gyd, a'r gymdeithas, ac hefyd, yr anerchiadau gan Jonathan Thomas. Roedd o'n siarad am Datguddiad 1, ac yn syml iawn, yn son am sut yr ydym ni'n fod i garu'n Eglwysi. Roedd o'n wych!
(os hoffech fwy o wybodaeth, gofynwch i fi!)
Felly, ar ol cyrraedd adre nos wener, roeddwn allan ohoni'n llwyr, a noson gynnar oedd hi i AT. Mae heddiw wedi bod yn braf, ond mae yfory wedi bod ar fy meddwl trwy'r dydd, a'm mhregeth i ar Datguddiad 2! (Eironig, ynte?!)

Wel, gobeithio eich bod yn teimlo yn well and truly connected i fi rwan, achos da chi'n gwbod bob dim, mwy neu lai, am fy mywyd yn y 3 mis dwetha, basically.

Diolch am ddarllen, a nos da.
P.S. Os da chi'n rhydd am amser, plis wnewch chi weddio ynglyn a fy mhregethu-yn enwedig yn ardal Arfon, achos dwi di mynd yn ymgeisydd efo'r Bedyddwyr(nai son mwy tro nesa!)

Cheers,
Tree

Croeso!

Wel, henffych well, a chroeso i'm mlog newydd. Dydw i ddim wir yn siwr paham mae blog yn cael ei wneud, ond mae creu blog fy hunan yn rhan o ddarganfod yr ateb i'ng nghwestiwn, gobeithio.
braf yw cael bod yn rhan o "blogger", a diolch i chi am ddarllen hwn. Sion Morris oedd yr ysbrydoliaeth i'r syniad yma, os dwi'n onest. Cefais y fraint o ddarllen ei flog, a darganfod fod diamwntiau o flogs ar gael, fel petai! Trysorau, hyd yn oed!

Wel, bwriad y blog yw i son am fy nheithiau led-led Cymru(ond yn bennaf, Llansannan), wrth i mi fynd ati i bregethu mewn gwahanol gapeli, ac ymwneud a'r gwaith o rannu'r efengyl, pregethu'r gair, a bugeilio, a unrhyw waith arall yn y weinidogaeth heddiw. Bwriad arall yw i rannu'r hyn rwyf fi wedi dysgu yn ddiweddar, ynghyd a'r pethau anodd sy'n dod ar fy llwybr, a'r bendithion hefyd. Mwnhewch, fodd bynnag, a gobeithio y bydd yn fuddiol i chi wrth ddarllen.

Tree